Mae cyfle wedi codi i’r gymuned leol brynu tafarn y Vale yn Nyffryn Aeron, Ceredigion. Nos Fercher 25 Awst daeth cynrychiolwyr mudiadau Dyffryn Aeron ynghyd i drafod syniadau, i ddychmygu pa wahaniaeth allai prynu tafarn y Vale ei gwneud i’r gymuned leol.

Ar ôl blynyddoedd dan berchnogaeth Rowland a Daphne Evans, mae’r dafarn bellach ar werth ers sbel fach, a bydd y denantiaeth bresennol yn dod i ben yn yr hydref. Gan bryderu am ddyfodol y dafarn, a’r ffaith y gallai gau, daeth criw bach ynghyd i weld a fyddai modd ffurfio menter gydweithredol (co-op) i brynu’r dafarn, a’i rhedeg fel adnodd i’r gymuned. A bellach mae’r criw bach wedi tyfu’n fwy, wrth i gynrychiolwyr mudiadau ddweud eu dweud yn y sesiwn syniadau gyntaf.

“Mae’n lle i yfed a bwyta, i chwerthin a dadle’n iach, i chwarae pŵl a chanu a chynllunio’r ddrama nesa,” medd Iwan Thomas, un o’r criw gafodd y syniad y gallai’r gymuned brynu’r dafarn. “Ond mae’n fwy na hynny. Fe soniodd rai bod y Vale yn rhywbeth arall hefyd – mae’n ‘lle i ddysgu byw’. Yn galon go iawn i’r gymuned ac mae ‘na ryw naws diwylliannol naturiol yna – rhywbeth fyddai’n anodd iawn ei greu o’r newydd.”

Fe rannwyd ychydig o ysbrydoliaeth gan fentrau cymdeithasol ar y noson. Roedd gweld bod cymuned fel Llandwrog wedi llwyddo i brynu tafarn Tyn Llan trwy werthu siârs yn ddiweddar yn hwb bod hyn yn bosib yn Nyffryn Aeron hefyd.

Ac yn ogystal, fe ddechreuwyd casglu syniadau am beth allai’r dafarn fod, a sut gallai pawb elwa ohoni i’r dyfodol. Ond dechrau’r daith oedd y sesiwn fach yma gyda chlybiau a chymdeithasau’r fro. Cyn ymestyn mas ymhellach gyda chyfres o sesiynau galw heibio (a chadwch lygad mas am fanylion rheiny), mae gan Fenter Tafarn y Dyffryn holiadur, ac rydym yn annog cymaint o bobol leol â phosib i’w llenwi er mwyn casglu barn pawb.

Er bod cymaint o gwestiynau’n dal heb eu hateb, y gobaith yw y bydd y gymuned gyfan yn cydio yn y cyfle i ddod ar y daith i ddod o hyd i’r atebion. Ond mae tri chwestiwn pwysig bellach ar feddyliau pawb:

Os nad y Vale, ble? Os nad nawr, pryd? Ac os nad ni, pwy?

Yr Holiadur: Casglu barn pobl Dyffryn Aeron!

Ydych chi wedi cwblhau’r holiadur ar ddyfodol y Vale?

Ry’n ni gyd moyn i’r Vale fod yn lle sy’n perthyn i bawb yn y dyffryn, felly clicwch ar y linc a rhannwch eich barn! https://forms.office.com/r/U41UJwjrt3