Paratoi i ailagor y Vale

Efallai ei bod hi’n ymddangos ein bod ni wedi bod yn eithriadol o dawel dros y 4 mis diwethaf – ers pan lwyddon ni i godi gwerth £380,000 mewn siârs er mwyn ailagor tafarn y Vale. Ond mae tipyn o waith wedi digwydd yn y cefndir!

Mae Menter Tafarn y Dyffryn bellach wedi:

  • Cofrestru ar gyfer TAW
  • Penodi cyfreithwyr
  • Penodi Syrfëwr Adeiladu
  • Newid y drwydded, a phenodi 3 DPS (Designated Premises Supervisor)
  • Trefnu yswiriant
  • Penodi ymgynghorydd allanol (gyda chefnogaeth ariannol Cynnal y Cardi) i adnabod cyfleoedd grantiau a dadansoddi anghenion lleol fyddai’n denu buddosddiad ariannol ychwanegol
  • Dosbarthu tystysgrifau rhanddeiliaid i’r 649 o aelodau
  • Gwneud trefniadau er mwyn gosod band eang a system tiliau modern
  • Trafod gyda bragdai a chyflenwyr

Mae pryniant y dafarn yn dal i fynd rhagddo, ac er ein bod ni’n obeithiol y byddwn ni wedi cwblhau erbyn y 6ed o Fai, mae’n bosib na fydd hynny wedi digwydd – mae’r cyfan yn nwylo’r cyfreithwyr. Ond ry’n ni’n falch iawn o fod wedi dod i gytundeb gyda Daphne a’r teulu sy’n golygu y bydd modd i ni ailagor hyd yn oed os nag yw’r pryniant wedi’i gwblhau. Ry’n ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cefogaeth a’u cydweithrediad parod.

Felly o ystyried hyn oll, ry’n ni’n ffyddiog bod gennym seiiau cadarn i fedru ailagor drysau’r Vale ar nos Wener y 6ed o Fai – rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur!