Ddydd Sadwrn 25 Hydref buodd taith go wahanol mlaen ym mhentrefi Dyffryn Aeron – taith i ffindio mas y diddordeb yn lleol i brynu Tafarn y Vale ar y cyd. 
Buodd y criw sydd wedi dod at ei gilydd dan faner ‘Menter Tafarn y Vale’ yn crwydro o neuadd i neuadd yn rhannu gwybodaeth am y fenter. 
Fe wnaeth y bar pop-yp (oedd yn gweini te a choffi yn unig, er mawr siom i rai!) ymddangos yng Nghilcennin, Ciliau Aeron, Cribyn, Dihewyd a Threfilan, gan orffen y dydd tu fas i Neuadd Felinfach. 
Ar ôl casglu syniadau trwy sesiwn i gynrychiolwyr mudiadau lleol fis yn ôl, a chasglu barn trwy holiadur, dyma’r cyfle cyntaf i bobol ddod i drafod y manylion am sut bydd y cynnig i brynu siârs yn y Fenter yn gweithio. 
Cafwyd ymateb gwych. Y teimlad oedd yn treididio trwy’r diwrnod oedd cymaint o bobol oedd ddim eisiau gweld Dyffryn Aeron heb dafarn yn y dyfodol. 
Bwriad Menter Tafarn y Dyffryn yw agor y cynnig i brynu siârs cyn diwedd mis Hydref, a chyrraedd y targed o £330,000 erbyn y Nadolig, er mwyn gallu prynu’r Vale a’i rhedeg fel cymuned. 
Bydd modd i unrhyw un brynu siârs, yn unigolion, mudiadau a busnesau. Yr isafswm y bydd modd buddsoddi fydd £200 a’r uchafswm fydd £30,000. A gan mai cwmni cydweithredol yw hwn, does dim ots faint o siârs mae rhywun yn eu prynu, bydd gan bob buddsoddwr yr un hawl democrataidd – un bleidlais fydd i bawb. 
Mae buddsoddi mewn cwmni cydweithredol yn cynnwys llawer o fanteision o ran treth a budd I’r gymuned ehangach, ac mae grantiau ar gael i gyfrannu punt-am-bunt maes o law.  
Ond am nawr, rydym wrthi’n brysur yn gorffen y gwaith papur – cadwch lygad ar tafarn.cymru am ragor o fanylion ac i weld pryd fyddwn yn lansio’r cynnig i brynu siars. 
Mae’n gyfle gwych i’r gymuned gydio yn yr awenau i sicrhau dyfodol y dafarn fel adnodd sy’n hybu cwmnïaeth ac yn ein helpu i gamu mlaen o Covid yn Nyffryn Aeron.